CYPE(5)-08-20 - Papur 3

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Ymchwiliad i Addysg Heblaw yn yr Ysgol
EOTAS 14

Ymateb gan: Mind Cymru

___________________________________

 

 

 

 

National Assembly for Wales
Children, Young People and Education Committee

Inquiry into Education Otherwise than at School EOTAS 14

Response from: Mind Cymru _______________________________________

Amdan Mind Cymru

Ni yw Mind Cymru. Dylai neb wynebu problem iechyd meddwl ar ei hunain. Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i helpu unrhywun sy’n wynebu problem iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu ar gyfer gwasanaethau gwell, codi ymwybyddiaeth ac i hyrwyddo dealltwriaeth.

Yn ystod haf 2019, lansiwyd ein canfyddiadau am ddatblygu dull gweithredu trwy’r ysgol gyfan (a whole school approach) i iechyd meddwl, yn seiliedig ar waith peilot mewn ysgolion, yn cynnwys arolwg 3,000 o ddisgyblion.

Mae’r gwaith wedi darganfod:

·         Medd 1 o bob 5 o ddisgyblion fod maen nhw wedi profi problem iechyd meddwl

·         Medd 1 o bob 3 o athrawon fod maen nhw wedi profi problem iechyd meddwl

·         Medd 1 o bob 4 o rieni fod maen nhw wedi profi problem iechyd meddwl

 

Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cryfhau ein tystiolaeth ynglŷn â phobl ifanc yng Nghymru, yn blaenoriaethu lleisiau pobl ifanc, ond does dim digon gyda ni eto i gyflwyno cyngor arbennig. Er hynny, mae’r gwaith rydyn ni eisoes wedi gwneud gyda phobl ifanc yn helpu llunio cwestiynau i’r ymholiad.

Yn ei llythyr hi at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 26 Mehefin, 2019, ysgrifennodd y Gweinidog Addysg: “Mae plant a phobl ifanc mewn lleoliadau EOTAS ymhlith rhai o'r dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed. Maent yn aml yn dod o gefndiroedd helbulus ac anodd a gallant brofi tor-perthynas o fewn y teulu a phroblemau iechyd meddwl yn fynych.”

Rydyn ni’n gyfarwydd gyda’r sefyllfa disgrifiwyd gan y Gweinidog, ac rydyn ni’n credu dylai’r pwyllgor ystyried y materion canlynol ynglŷn ag iechyd meddwl pobl ifanc ac Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol.

1.        Beth yw’r gefnogaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol a sut ydyn ni’n gallu sicrhau safon ac ansawdd cyson ar draws Gymru?

 

2.      Pa adnoddau ydy’r Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu consortia addysg rhanbarthol yn darparu er mwyn sicrhau cefnogaeth iechyd meddwl o safon i bobl ifanc sy’n derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol, a beth yw’r proses gwerthuso’r rhain?

 

3.      A oes ddatblygiad ar argymell Estyn ar Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol (Mehefin 2016) bod angen i’r Llywodraeth Cymru cryfhau canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol i ‘[g]wella’r gallu i droi at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ac asiantaethau arbenigol eraill i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol? A oes tystiolaeth i hyn ymhen profiadau dyddiol y rhai sy’n derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol?

 

4.      A oes gwaith gan ysgolion cyffredinol ar draws Gymru i sicrhau mae ystyriaeth o’r anghenion iechyd meddwl pobl ifanc gyda risg o symud at Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol, ac os mae Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol yw’r gefnogaeth fwyaf priodol?

 

5.      Mae pryderon fod dysgwyr gyda phroblemau iechyd meddwl yn bosib yn cyrraedd dull dysgu tu allan o addysg cyffredinol oherwydd pwysau gan yr ysgol, sy’n rhan o broses fwy eang o’r enw ‘off-rolling’ (lle cafwyd y plentyn eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol heb waharddiad ffurfiol, parhaol neu trwy annog rhieni symud y plentyn o’r ysgol). Ar hyn o bryd, rydyn ni’n aros ar gyfer adroddiad gan Estyn. A oes tystiolaeth bod hyn yn digwydd i ddysgwyr sy’n wynebu problemau iechyd meddwl tu fewn ein sefydliadau addysg, a thrwy hynny yn derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol, a oes ymdrech atal hyn rhag digwydd?

 

6.     Mae’r gwaith rydyn ni wedi gwneud gyda phobl ifanc wedi darganfod pryderon fod plant yn gallu cael eu labeli yn negyddol, megis ‘drwg’ neu ‘yn anodd’ tra maen nhw’n wynebu problemau iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol. Tu fewn yr ysgol, mae’r aelod o’r staff sy’n gyfrifol ar gyfer gofal bugeilio gall hefyd bod yn gyfrifol ar gyfer disgyblaeth, ac felly mae hyn yn gadael rhai plant yn hwyrfrydig gofyn am gefnogaeth gan rywun sydd eisoes, yn eu teimlad, yn labeli nhw mewn ffordd negyddol. Mae hyn yn codi cwestiynau am y llwybrau tuag at Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol, ac os mae’r dysgwyr wedi derbyn cefnogaeth briodol cyn y newid yn eu sefyllfa. Sut gall adnabod yr unigolion yma ac yn rhoi cefnogaeth addas iddyn nhw?

 

7.      Yn derbyn pwysigrwydd iechyd meddwl da mewn sicrhau canlyniadau da i’r dysgwyr, sut bydd Llywodraeth Cymru sicrhau plethiad gwell iechyd meddwl tu fewn y cwricwlwm newydd i’r rhai sydd yn derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol er mwyn sicrhau bod pob un person ifanc yn cyrraedd eu potensial?

 

8.     Sut dylai ‘dull gweithredu trwy’r ysgol gyfan’ edrych mewn darpariaeth Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol?

 

9.      Ydy adnoddau iechyd meddwl yn yr iaith Gymraeg yr un mor dda â’r rhai yn yr iaith Saesneg, gydag yr un argaeledd? Os nag ydyn, pa waith sy’n digwydd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddwy iaith swyddogol? A oes enghreifftiau ar gael o ymarfer da yn defnyddio adnoddau iechyd meddwl iaith Gymraeg mewn cyd-destun Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol?